Barnardo's Cymru-Wales (RGB) 

 

 

 

 

 

 

 

 

Ymateb Craffu Deddfwriaethol Barnardo's Cymru

 

Craffu ar y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon

 

Bil Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru)

                                                                   

4 Rhagfyr 2017

                                                           

XXXXXXXXXXXXXXXXXXX

 

Uned Polisi ac Ymchwil Barnardo’s Cymru

19-20 Heol Llundain

Castell-nedd

SA11 1LE

XXXXXXXXXXXX

 

www.barnardos.org.uk/cym/what_we_do/corporate_strategy/wales/wales_policy.htm

 

 

§  Mae’n bosibl y caiff yr ymateb hwn ei wneud yn gyhoeddus

§  Mae’r ymateb hwn yn cael ei gyflwyno ar ran Barnardo’s Cymru


 

1. Gwybodaeth a chyd-destun gweithio Barnardo’s Cymru

 

Mae Barnardo’s Cymru wedi bod yn gweithio gyda phlant, pobl ifanc a theuluoedd yng Nghymru am dros 100 mlynedd, ac yn un o’r elusennau plant mwyaf yn y wlad. Ar hyn o bryd rydym yn darparu 86 o wasanaethau amrywiol ledled Cymru, gan weithio mewn partneriaeth ag 16 o’r 22 awdurdod lleol.

 

Mae ein holl wasanaethau yn wahanol, ond credant oll bod pob plentyn a pherson ifanc yn haeddu’r dechrau gorau mewn bywyd, pwy bynnag ydyn nhw, beth bynnag y maen nhw wedi'i wneud neu beth bynnag y maen nhw wedi'i ddioddef. Rydym yn defnyddio'r wybodaeth a gasglwyd o’n gwaith uniongyrchol gyda phlant i ymgyrchu dros bolisïau plant a gofal cymdeithasol gwell ac i hyrwyddo hawliau pob plentyn. Rydym yn credu, gyda’r math cywir o gymorth, cefnogaeth ymroddedig ac ychydig o ffydd, y gall hyd yn oed y plant mwyaf agored i niwed newid cyfeiriad eu bywyd.  Ein nod yw sicrhau canlyniadau llesiant gwell i fwy o blant drwy ddarparu’r gefnogaeth sydd ei hangen i wneud teuluoedd yn gryfach, plentyndod pawb yn fwy diogel, a’r dyfodol yn fwy cadarnhaol.

 

Bil Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru)

 

2. Trosolwg o’r ymateb

 

Er mwyn llywio’r ymateb hwn, rydym wedi ceisio barn rheolwyr gwasanaethau ac arweinwyr timau Barnardo's Cymru. O ganlyniad, mae’r ymateb hwn wedi’i lywio gan safbwyntiau gwasanaethau Barnardo's Cymru, ac ni fydd yn ailadrodd neu’n cyfeirio at ymchwil sy’n dra chyfarwydd i’r pwyllgor.

 

Mae pwysau'r dystiolaeth yn golygu nad oes modd gwadu'r ddadl dros y ddeddfwriaeth hon; serch hynny, fel sy’n cael ei gydnabod, nid yw effeithiau cadarnhaol y ddeddfwriaeth yn debygol o wneud gwahaniaeth mor arwyddocaol â’r gobaith heb fesurau a dulliau eraill.

 

Yn gryno, mae’r canlynol yn berthnasol i Barnardo's Cymru:

·         mae’n cefnogi egwyddor y Bil

·         mae’n awgrymu bod angen dulliau gweithredu i fynd i'r afael â’r broblem o yfed niweidiol a pheryglus sy’n bodoli ar draws grwpiau incwm

·         byddai’n croesawu ymgyrchoedd i fynd i’r afael â phroblemau o ran derbyn mewn diwylliant yfed sydd ddim yn iach ar y cyfan

·         byddai’n croesawu ystyried rhoi ffocws cryfach ar hawliau plant, camfanteisio a diogelu yn y bil

·         mae’n credu y bydd yn creu newid mewn pryniannau manwerthu ar ddiodydd sy’n uwch o ran lefel alcohol ond yn is o ran pris.

 

 

3. Mewnbwn gwasanaethau

 

Er eu bod yn cydnabod y broblem sy’n cael ei thrin yn y bil, mae gwasanaethau Barnardo's Cymru wedi tynnu sylw at nifer o broblemau y mae angen mynd i’r afael â nhw ar y cyd â’r bil er mwyn sicrhau rhagor o newid.

 

Yfed a Phlant a Phobl Ifanc

 

Mae’r problemau hyn yn perthyn i ddau faes fel arfer. Yn gyntaf, plant a phobl ifanc sy’n yfed, ac yn ail, y rheini mae arferion yfed eu teulu neu eu rhiant/gofalwr yn effeithio arnynt.

 

I ddechrau, mae’n rhaid i ni gydnabod bod rhai pobl ifanc yn prynu ac yn yfed diodydd alcoholaidd yn gyfreithiol ac yn gyfrifol, ac o ganlyniad bydd y bil yn cael effaith annheg arnynt efallai.

 

Mae ymddygiad rhieni a gofalwyr yng nghyswllt alcohol yn cael dylanwad cryf ar ddefnydd eu plant o alcohol. Mae’r rhan fwyaf o blant a phobl ifanc yn deall sut mae rheoli alcohol drwy arweiniad gan eu rhieni/gofalwyr. Mae hyn yn cynnwys rhieni yn ysgwyddo cyfrifoldeb dros brynu alcohol i bobl ifanc yn eu harddegau hŷn i reoli faint o alcohol maent yn ei yfed a chryfder yr alcohol hwnnw, rhieni yn rhoi cyngor ar effaith a pheryglon alcohol, a rhieni yn bod yn esiampl dda o ran yfed yn ddiogel ac yn gyfrifol. Yn ôl pob un o’n gwasanaethau, mae’r rhan fwyaf o’r alcohol sy’n cael ei yfed gan blant, hyd y gwyddant, yn cael ei ddarparu gan rieni neu deulu, neu mae ar gael gartref fel arfer. Ni fyddai’r rhan fwyaf o'r alcohol hwn yn perthyn i’r categorïau diod mae’r isafbris uned yn effeithio arnynt, ac nid yw’n cael ei brynu gan blant neu bobl ifanc.

 

Serch hynny, cafwyd hanesion hefyd am deuluoedd lle roedd yr arweiniad yn annefnyddiol neu’n annoeth, ac enghreifftiau o rai teuluoedd yn rhoi arian i bobl ifanc heb ystyried y peryglon cysylltiedig o ran sut byddai’r arian yn cael ei wario. 

 

Mae un arweinydd tîm sydd â phrofiad helaeth ym maes camddefnyddio sylweddau wedi rhoi gwybod am sefyllfaoedd nad oedd hi wedi dod ar eu traws o’r blaen. Roedd hi wedi cwrdd â bachgen 15 oed a oedd, ar ôl cwblhau ei dasgau domestig fel mynd â’r ci am dro a glanhau ei ystafell, yn cael potel o fodca ar y dydd Gwener fel gwobr i’w rhannu â’i ffrindiau.  Mae’r bachgen yn credu bod hyn o fewn ffiniau da a diogel; mae wedi haeddu'r wobr drwy gyfrannu, ac nid yw ef a’i ffrindiau yn cael gafael ar alcohol a’i yfed mewn amgylchiadau anniogel.

 

Roedd yr un gwasanaeth wedi rhoi gwybod am fachgen arall 15 oed oedd yn cael tua £400 o bres poced i'w wario bob mis, gan olygu nad oedd costau alcohol yn fawr o bryder. Mae’r ddau fachgen hyn yn dod o deuluoedd incwm canolig, lle mae’r rhieni’n credu eu bod yn ymddwyn yn gyfrifol.

 

Yn achos nifer o’r plant sy’n defnyddio gwasanaethau camddefnyddio sylweddau o ganlyniad i'w defnydd eu hunain o sylweddau, ni chredir y bydd y ddeddfwriaeth hon yn cael llawer o effaith, gan nad alcohol yw’r cyffur o ddewis fel arfer, ond, yn hytrach, un cyfleus i fanteisio arno os yw ar gael. 

 

Mae llawer o wybodaeth ar gael am fywydau plant a phobl ifanc y mae yfed niweidiol, peryglus neu ddibynnol yn y teulu yn effeithio arnynt, lle mae posibilrwydd cryf o brofi amodau niweidiol drwy gydol plentyndod.

 

Mae hefyd yn wir fod teuluoedd incwm is yn wynebu rhagor o broblemau iechyd ar y cyfan, a phan gyfunir hynny ag yfed niweidiol neu beryglus, mae’n ei gwneud yn fwy tebygol y bydd y teulu’n dioddef effeithiau salwch difrifol a marwolaeth gynnar.

 

Mae Barnardo's Cymru yn cefnogi bwriad y bil hwn, sef lleihau effaith yfed niweidiol a pheryglus ar unigolion, ac yn credu y gallai hynny sicrhau manteision emosiynol ac ymarferol i deulu’r sawl sy’n yfed.

 

Y Bil a Thrais Domestig

 

Dyma un o’r meysydd lle mae gwendidau’r ddeddfwriaeth amlycaf. Pan ofynnwyd i un rheolwr gwasanaeth a fyddai'r bil yn helpu i leihau lefelau trais domestig, dywedodd: ‘Mae hynny’n dibynnu ar p’un ai yw’r troseddwr ddim ond yn dreisgar pan fydd yn yfed alcohol cryf a rhad.’

 

Yn gyffredinol, mae alcohol yn cyfrannu at brofiadau, amlder a natur trais domestig, ond nid yw’n ffactor bob amser. Mae trais domestig yn digwydd ar draws pob grŵp incwm, gan arwain at y cwestiwn ynghylch beth mae modd ei wneud i fynd i’r afael ag effeithiau alcohol sydd yr un mor niweidiol i grwpiau incwm eraill, ar wahân i’r un isaf.

 Posibilrwydd o Ganlyniadau Negyddol Anfwriadol 

 

Roedd yr ymatebion gan wasanaethau Barnardo's Cymru hefyd yn tynnu sylw at rywfaint o effeithiau negyddol posibl. Yn ogystal â’r posibilrwydd amlwg o newid alcohol am gyffuriau eraill, roedd y gwasanaethau’n tynnu sylw at y posibilrwydd o gynyddu incwm y teulu drwy buteindra, rhagor o droseddu i gael gafael ar alcohol, rhagor o gamfanteisio i gael alcohol, a marchnad ddu broffidiol ar gyfer alcohol.

Fe allai’r ddeddfwriaeth fod yn eithaf syml i’w gorfodi, gan ei bod yn gyfyngedig i weithgarwch manwerthu sydd wedi’i reoleiddio a’i drwyddedu yn bennaf. Serch hynny, mae’n anochel y bydd problemau o ran capasiti mewn adrannau safonau masnach i gyflawni'r ddyletswydd ychwanegol hon gyda lefelau staff is o lawer.

 

4. Casgliad

 

Fel y nodwyd gennym yn flaenorol, nid oes modd gwadu'r ddadl dros y ddeddfwriaeth hon. Rydym hefyd wedi nodi mai cynnydd cyfyngedig a gyflawnir gan y bil efallai tuag at ei nodau, os na cheir datblygiadau eraill. Roedd y gwasanaethau’n tynnu sylw at yr angen am i raglenni addysg iechyd y cyhoedd fynd i'r afael â gwybodaeth, dealltwriaeth a diwylliant. Roeddent hefyd yn cymharu â'r newidiadau yn y defnydd o dybaco, gan awgrymu rhagor o gyfyngiadau ar hysbysebu, ystyried pecynnau plaen a’u gwneud yn llai amlwg neu’n anoddach cael gafael arnynt ar silffoedd. 

 

Tim Ruscoe

Rhagfyr 2017